Y Pwyllgor Busnes

 

Lleoliad:

Swyddfa'r Llywydd, 4ydd Llawr, Tŷ Hywel

 

Dyddiad:

Dydd Mawrth, 26 Mehefin 2012

 

Amser:

08:30 - 08:55

 

 

 

Cofnodion: 

 

 

 

Aelodau’r Pwyllgor:

 

Jocelyn Davies

William Graham

Jane Hutt

Aled Roberts

David Melding (Cadeirydd) (yn lle Rosemary Butler)

 

 

 

 

 

Staff y Pwyllgor:

 

Anna Daniel (Clerc)

 

 

 

 

 

 

Eraill yn bresennol:

 

 

Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad

Sulafa Thomas, Pennaeth Pwyllgorau’r Cynulliad

Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaethau’r Siambr a Deddfwriaeth

Craig Stephenson, Prif Ysgrifennydd Preifat y Llywydd

Peter Greening, Llywodraeth Cymru

 

 

 

 

<AI1>

1.  Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau

 

Roedd y Dirprwy Lywydd yn dirprwyo ar ran y Llywydd, a anfonodd ei ymddiheuriadau.

 

</AI1>

<AI2>

2.  Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

 

Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi.

 

</AI2>

<AI3>

3.  Trefn Busnes

 

</AI3>

<AI4>

3(i)        Busnes yr wythnos hon

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ohirio’r eitem a ganlyn ddydd Mercher:

 

·         NDM5024 Leanne Wood (Canol De Cymru): Arafu’r traffig i sicrhau diogelwch ein plant ysgol (30 munud)

 

Ddydd Mawrth a dydd Mercher, cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes. 

 

</AI4>

<AI5>

3(ii)       Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

 

Nododd y Pwyllgor amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

</AI5>

<AI6>

3(iii)      Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu amser ar gyfer yr eitemau o fusnes a ganlyn:

 

Dydd Mercher 18 Gorffennaf 2012-

 

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.

 

Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47. Os cytunir ar y cynnig:

 

Cynnig Cyfnod 4 i gymeradwyo Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (ieithoedd Swyddogol) o dan reol Sefydlog 26.47.

 

 

Penderfynodd y Pwyllgor ar drefn busnes y Cynulliad.

 

</AI6>

<AI7>

3(iv)      Dadleuon Aelodau Unigol: Dethol Cynnig i'w Drafod

 

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion heb ddyddiad trafod a gyflwynwyd gan Aelodau unigol, a detholwyd y cynnig a ganlyn i’w drafod ddydd Mercher 4 Gorffennaf:

 

NNDM5023

Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)

Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)

Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn cefnogi gostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed ym mhob etholiad a refferendwm a gynhelir yng Nghymru.

 

Cefnogwyd gan:

 

Keith Davies (Llanelli)

Christine Chapman (Cwm Cynon)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)

Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

Julie James (Gorllewin Abertawe)

Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Mick Antoniw (Pontypridd)

Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnal y Ddadl gan Aelod Unigol nesaf ddydd Mercher 17 Hydref 2012.

 

</AI7>

<AI8>

4.  Pwyllgorau

 

</AI8>

<AI9>

4(i)        Adolygu Strwythur y Pwyllgorau

 

Bu’r Pwyllgor Busnes yn trafod papur a oedd yn amlinellu’r profiadau a gafwyd o ran strwythur y pwyllgorau yn ystod blwyddyn gyntaf y pedwerydd Cynulliad.

 

Strwythur y Pwyllgorau

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes nad yw rôl ddeuol y pwyllgorau, sef deddfu a chraffu ar bolisïau, wedi’i phrofi’n iawn eto, a daethpwyd i’r casgliad nad oes angen newid y strwythur ar hyn o bryd. Cytunodd yr Aelodau i barhau i adolygu’r system wrth i swmp y ddeddfwriaeth gynyddu.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylid parhau i brif-ffrydio materion Ewropeaidd ar draws y pwyllgorau. Nodwyd bod y dull hwn o weithredu wedi gweithio’n dda, gan arwain at waith craffu mwy trylwyr ar faterion Ewropeaidd.

 

Nododd y Rheolwyr Busnes y rôl a chwaraeir gan gadeiryddion y pwyllgorau, a chytunwyd y dylid gwahodd y cadeiryddion i roi adborth am y rôl-ddisgrifiad presennol (sef y rôl-ddisgrifiad a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor Busnes ym mis Mehefin 2011).

 

Amserlen y Pwyllgorau

 

Bu’r Rheolwyr Busnes yn trafod newidiadau posibl i amserlen y pwyllgorau er mwyn hwyluso cais gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am slotiau hirach a mwy cyson ar gyfer cyfarfodydd y Pwyllgor. Nododd y Pwyllgor Busnes yr anawsterau a geir wrth geisio amserlennu cyfarfodydd. Cytunodd yr Aelodau y byddai’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn parhau i gynnal cyfarfodydd ar fore dydd Mawrth, a bod hawl gan y Pwyllgor hefyd i gynnal cyfarfodydd ar brynhawn dydd Llun os oes angen gwneud hynny er mwyn bodloni gofynion ei lwyth gwaith, gan y byddai cynnal cyfarfodydd mewn slotiau eraill yn arwain at wrthdaro sylweddol â chyfrifoldebau eraill yr Aelodau. Yn ogystal, nododd y Pwyllgor Busnes fod angen elfen o hyblygrwydd, o bosibl, mewn perthynas â chynnal cyfarfodydd y grwpiau pleidiol ar fore dydd Mawrth, er mwyn galluogi’r pwyllgorau i gynnal cyfarfodydd hirach lle bo angen. 

 

Nododd y Rheolwyr Busnes fod aelodaeth Aelodau Plaid Cymru o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cael ei herio’n aml, gan fod nifer o Aelodau’r blaid wedi bod yn Weinidogion. O dan Reol Sefydlog 18.8, nid oes gan unrhyw Aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yr hawl i gymryd rhan mewn trafodaeth ar unrhyw fater sy’n ymwneud â chyfnod pan roedd yr Aelod hwnnw’n rhan o’r Llywodraeth.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i amserlennu slot ar gyfer cyfarfodydd o’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog unwaith bob tymor ar ddydd Iau (ochr yn ochr â chyfarfodydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc/y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol/a’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd).

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gadw’r slot ar gyfer cyfarfodydd o’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar brynhawn dydd Llun, gan nodi bod cynnal cyfarfodydd ar brynhawn dydd Llun yn cyfyngu ar aelodaeth y Pwyllgor ac yn arwain at ddirprwyo rheolaidd.

 

Busnes Arall

</AI9>

<AI10>

 

Nododd y Dirprwy Lywydd fod nifer o gwestiynau wedi’u tynnu yn ôl yn ddiweddar am resymau amrywiol. Atgoffodd y Dirprwy Lywydd y Rheolwyr Busnes fod angen osgoi’r achosion hynny lle bo’n bosibl.

</AI10>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

FIELD_SUMMARY

</ TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</ COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>